Curwch felan y gaeaf a chymerwch ran yn y Pwls Hapusrwydd
Bydd arolwg newydd yn tynnu sylw at ba mor hapus, cysylltiedig a gweithgar mae pobl yng Ngwent a bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar les pobl sy’n byw yng Nghaerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent a Chasnewydd.
Mae arolwg Pwls Hapusrwydd yn adrodd stori am le. Fe’i dyluniwyd gan elusen a menter gymdeithasol ‘Happy City’ o Fryste, sy’n arweinwyr byd-eang mewn helpu i gefnogi mesur lles yn well, a datblygu polisi i gefnogi lles hirdymor o fewn cymunedau.
Mae gan eu Prif Weithredwr, Liz Zeidler, obeithion uchel ar gyfer peilot Gwent-gyfan – “Mae’r Pwls Hapusrwydd yn offeryn unigryw sy’n helpu unigolion i archwilio eu hapusrwydd hirdymor eu hunain, tra’n helpu cymunedau i fapio cryfderau ac anghenion lles eu holl ddinasyddion. Drwy gefnogi miloedd o bobl leol i gymryd eu pwls, mae awdurdodau lleol, busnesau a sefydliadau cymunedol Gwent yn dangos eu hymrwymiad arloesol i ddeall a gwella bywydau pobl ledled y rhanbarth.”
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi arwain gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i feddwl yn hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cyd-gysylltiedig. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithredu hyn wrth gyhoeddi Cynlluniau Llesiant ym Mai 2018.
Mae digwyddiadau Curwch y Felan yn cael eu cynnal ar draws Gwent gan ddechrau dydd Llun Ionawr 15fed. Gall pob preswylydd gwblhau’r arolwg – hyd yn oed os nad ydynt yn byw yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili. Gellir cwblhau’r Pwls ar gyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol. Mae fersiynau copi caled hefyd ar gael os oes angen – cysylltwch â 01443 866391.