Sefydlwyd Cynhadledd Flynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i roi cyfle i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili ddod at ei gilydd. Rhoddodd y gynhadledd gyfle i edrych ar ffyrdd o wella ansawdd bywyd trigolion, pobl sy’n gweithio yma ac ymwelwyr.
Disodlodd y Gynhadledd Sefydlog flaenorol, a oedd yn cael ei chynnal ddwywaith y flwyddyn, gan Gynhadledd Flynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Oherwydd y pandemig COVID-19, canslwyd y gynhadledd y llynedd ac ni fydd cynhadledd yn 2021, ond ceir manylion cynhadledd 2019 isod.
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol gyntaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2019 ym maenordy canoloesol Llancaiach Fawr, Nelson.
Roedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn falch o groesawu Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, i roi’r brif araith a Claire Germain o Isadran Llywodraeth Leol a Phartneriaethau Llywodraeth Gymru.
Lansiodd y Bwrdd ei Adroddiad Blynyddol cyntaf (gweler y dudalen Cynnydd) sy’n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf ers cyhoeddi Cynllun Llesiant 2018–2023 “Y Gaerffili a Garem”.
Rhoddwyd cyfle i gynrychiolwyr weld y fersiwn ar-lein newydd o’r Asesiad Llesiant, sy’n cael ei ddatblygu ar y cyd â Data Cymru; bydd hyn yn galluogi’r Bwrdd a’i bartneriaid i gael y data diweddaraf am y fwrdeistref sirol ar flaenau eu bysedd.
Roedd Is-bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yn falch iawn o gael cyfle i lansio’r fersiwn newydd o Gytundeb Partneriaeth Trydydd Sector Caerffili (2018–2023) yn y digwyddiad, sydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r angen am gydweithredu agosach ar draws yr holl bartneriaid i gyflawni nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a sicrhau bod sefydliadau’r trydydd sector yn chwarae rhan lawn.