Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae pob un o’r pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus : Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen – wedi cytuno i ddiddymu eu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus lleol a ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent rhanbarthol o fis Medi 2021. Trafodwyd hyn o dan eitem 2 yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili ar 24 Mehefin – gallwch chi ddarllen y papurau perthnasol yma

Er bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili wedi’i ddiddymu er mwyn creu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, mae dwy flynedd ar ôl o hyd ar y cynllun llesiant cyfredol. Byddwn ni’n parhau i gwblhau’r camau hyn a bydd diweddariadau ynghylch Perfformiad yn cael eu postio ar wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili a fydd yn parhau i fodoli tan ddiwedd y cynllun llesiant cyfredol. Bydd gwaith craffu gan yr awdurdod lleol hefyd yn parhau nes bod cynllun 2018-2023 wedi’i gwblhau.

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfarfod cyntaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ar 1 Hydref 2021 a bydd y Cyngor yn darparu’r rôl gydlynu am y 2 flynedd gyntaf pan fydd partner arall o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn cymryd yr awenau. Mae’r dogfennau o gyfarfod cyntaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ar gael yma.

Rydyn ni wedi datblygu gwefan newydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a gallwch chi gael mynediad ati yma.