Cynllun Llesiant

Mae’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lunio a chyhoeddi cynllun llesiant lleol gan osod ei amcanion lleol a’r camau arfaethedig er mwyn eu cyflawni.

Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn cyflawni hyn drwy: –

  • Asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Gosod amcanion sydd wedi’u teilwra i wella’r fwrdeistref sirol ar gyfer ei thrigolion ac i gynyddu i’r eithaf cyfraniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili tuag at nodau llesiant Cymru

Mae’n rhaid i’r Cynllun nodi: –

  • Pam bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo y bydd eu hamcanion yn cyfrannu at y nodau llesiant o fewn bwrdesitref sirol Caerffili, a
  • Sut y cafodd yr asesiad llesiant ei ddefnyddio wrth osod yr amcanion a’r camau y bydd yn eu cymryd

Wrth ddrafftio eu cynlluniau, mae’n rhaid i’r Bwrdd ofyn am gyngor y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru statudol a chymryd i ystyriaeth ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddaraf.

Cyn iddo gyhoeddi ei gynlllun, mae’n rhaid i’r Bwrdd gynnal ymgynghoriad, am isafswm o 12 wythnos, gyda’r bobl a restir isod.

  • Y Comisiynydd
  • Cyfranogwyr a wahoddwyd gan y Bwrdd
  • Ei bartneriaid eraill
  • Pwyllgor trosolwg a chraffu Cyngor Bwrdesitref Sirol Caerffili
  • Mudiadau perthnasol o’r sector gwirfoddol
  • Cynrychiolwyr sy’n byw ac sy’n cynnal busnes yn yr ardal
  • Undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn yr ardal; ac
  • Unrhyw bobl eraill sy’n berthnasol yn nhyb y Bwrdd

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae’n rhaid i’r cynllun gael ei gymeradwyo gan aelodau’r Bwrdd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn ystod cyfarfodydd pob un o’r 3 aelod statudol arall.

Ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, mae’n rhaid i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus anfon copi o’i gynllun llesiant lleol at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i’r cynllun hwn gael ei gyhoeddi o fewn 12 mis o etholiad llywodraeth leol cyffredin.


Yr Asesiad Llesiant ac adroddiadau o’r gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili wedi cynnal asesiad o lesiant lleol ei ardal, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r canllawiau statudol cysylltiedig.

Mae’r asesiad Llesiant ac adroddiadau o’r gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ar gael yn yr adran Beth mae lles yn ei olygu i chi?