Disgwylir i gyrff cyhoeddus ddangos i bobl eu bod yn gweithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy wrth gyflawni eu gwaith a sut maent yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni eu nodau llesiant. Rhaid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd ddangos sut y maent yn cyflawni eu hamcanion llesiant trwy’r camau y maent wedi’u cymryd i wneud gwelliannau cynyddrannol yn lles cymunedau.
Mae gan y Gaerffili a Garem 2018-2023 bedwar amcan lefel uchel
Mae’r BGC wedi gosod meysydd i’w gweithredu ei hun a galluogwyr sylfaenol a fydd yn ei helpu i gyflawni ei amcanion llesiant. Mae gan bob un o’r rhain gynllun gweithredu cysylltiedig. Mae cynnydd yn cael ei fonitro gan y BGC yn ei gyfarfod chwarterol ar gylchdro bob chwe mis ar gyfer pob maes.
Gallwch weld Adroddiadau Cynnydd yma.
Mae’n bleser gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili gyhoeddi ei bedwerydd Adroddiad Blynyddol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Lles ‘Caerffili a Garem 2018-2023’ sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng Hydref 2021 a Ebrill 2022.
Hwn fydd yr Adroddiad Blynyddol olaf gan BGC Caerffili ers i ni uno â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill yn rhanbarth Gwent er mwyn ffurfio BGC Gwent.
Mae’n bleser gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili gyhoeddi ei drydydd Adroddiad Blynyddol. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Lles ‘Caerffili a Garem 2018-2023’ sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng Hydref 2020 a Medi 2021.
Fodd bynnag, mae dwy flynedd ar ôl o hyd i redeg ar y cynllun lles cyfredol a byddwn ni’n parhau i weithio ar y camau o fewn y cynllun, gan ddarparu diweddariadau cynnydd yma tan 2023, pan fydd y cynllun wedi’i gwblhau.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn falch o gyhoeddi ei ail adroddiad blynyddol, sy’n amlygu’r cynnydd a wnaed tuag at y Cynllun Llesiant ‘Y Gaerffili a Garem 2018-2023’. Mae’r adroddiad eleni yn ymdrin â chyfnod hirach o 16 mis, gan fod yr holl bartneriaid wedi bod yn rhan o’r ymateb i bandemig Covid-19. Mae amserlen hirach wedi caniatáu i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus arddangos ymateb anhygoel y sectorau cyhoeddus a chymunedol trwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn dilyn cyhoeddi’r Cynllun Llesiant, ‘Y Gaerffili a Garem 2018-2023’, ym mis Mehefin 2018. Gallwch weld yr Adroddiad Blynyddol yma.