Caiff gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili ei fonitro i sicrhau ei fod yn gweithio yn gynaliadwy ac yn gwneud cynnydd.
Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos y cynnydd a wnaethpwyd o ran cyflawni’r amcanion.
Caiff y gwaith ei graffu gan banel Partneriaeth Craffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a fydd yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i adolygu cynnydd
Gall y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wneud argymhellion i gorff cyhoeddus neu i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae’n rhaid iddynt gyhoeddi eu hymateb.
Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad o’r cyrff cyhoeddus.