Mae’r cynllun llesiant: ‘Y Gaerffili a Garem 2018 – 2023’ yn gosod allan yr hyn y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyflawni ar y cyd gyda’r sectorau statudol, preifat a’r trydydd sector ynghyd â’n cymunedau. Mae hwn, y cynllun cyntaf ar gyfer yr ardal, yn ceisio sicrhau gwelliannau hirdymor mewn lles ac mae ganddo 4 Amcan lefel uchel:
Mae’r Cynllun Llesiant a’i Gynllun Cyflawni yn dangos sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi dewis ei amcanion a’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cwrdd.
Datblygwyd y Cynllun gan ddefnyddio cyfoeth o ddata ac ymatebion i’r ymgynghoriad ac mae’n nodi gweithgaredd ar gyfer cyfnod 5 mlynedd y Cynllun. Wrth wneud hynny, mae’r gweithgaredd a gynlluniwyd wedi’i flaenoriaethu i wneud y defnydd gorau o adnoddau cydweithredol a gwneud y gorau o’r cyfraniad at nodau lles cenedlaethol Cymru.