Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn cyhoeddi ei Asesiad Llesiant ar-lein am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys nifer o’r setiau data a oedd yn rhan o’r Asesiad Llesiant gwreiddiol, ond lle bo’n briodol mae’r data a gynhwyswyd wedi’u diweddaru i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf. Darperir naratifau sy’n disgrifio tueddiadau data hefyd lle bo hynny’n briodol. Gellir cyrchu’r wybodaeth yma:
Drwy gydol misoedd yr haf yn 2016, cynhaliodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili nifer o ddigwyddiadau cymunedol, yn gofyn i bobl ddweud eu dweud ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a ddaeth yn Gyfreithiol ym mis Ebrill 2016.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili wedi cynnal yr asesiad hwn o les lleol ei ardal, yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i gyfarwyddyd statudol cysylltiedig. Dewiswch ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.
Ein hymagwedd